Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.
Primary Navigation
|
Hafan
|
|
Skip the main content if you do not want to read it as the next section.
Mae Gofal Arthritis yn cynnig gweithdai a chyrsiau rhad ac am ddim er mwyn helpu pobl ag arthritis i ddysgu sut i ymdopi â’u hanhwylder a byw eu bywyd i’r eithaf. Rydym hefyd yn darparu cyrsiau ar gyfer pobl sydd ag anhwylderau hirdymor eraill, ac rydym yn cynnal gweithdai i ddatblygu dealltwriaeth pobl eraill o arthritis.
Sgroliwch i lawr i gael mwy o wybodaeth
Gall unrhyw un gymryd rhan. Er ein bod ni’n defnyddio geiriau megis ‘hyfforddi’ a ‘rhaglenni’, nid yw ein cyrsiau a’n gweithdai ni’n academaidd. Maent yn sesiynau cyfeillgar ac anffurfiol sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau hygyrch. Bydd ein hyfforddwyr achrededig yn eich helpu i ddysgu mwy am eich anhwylder ac am hunanreoli. Byddant yn eich arwain trwy’r broses o bennu nodau a gwneud newidiadau cadarnhaol i’ch bywyd. Ac oherwydd bod y cyrsiau hyn yn cael eu hariannu, ni fydd yn rhaid i chi dalu i’w mynychu.
Bydd pobl o bob oed a phob cefndir yn mynychu ein cyrsiau a’n gweithdai ac yn cael budd ohonynt. Byddwn yn cynnal sesiynau sydd wedi’u teilwra ar gyfer oedolion ac ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed. Yn aml bydd y bobl sydd yn y grwpiau’n wynebu problemau tebyg, a gall eu hempathi a’u dealltwriaeth wirioneddol roi hwb go iawn i chi. Mae pob un o’r hyfforddwyr yn byw gydag arthritis (neu anhwylder hirdymor arall), a byddant felly’n siarad o brofiad. Byddant wedi cael hyfforddiant proffesiynol dwys. Gwirfoddolwyr yw’r mwyafrif ohonynt sy’n rhoi o’u hamser yn hael.
Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn dweud wrthym bod ein cyrsiau wedi rhoi mwy o wybodaeth, hyder ac annibyniaeth iddynt. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o’ch anhwylder fel y gallwch chi wneud penderfyniadau cadarnhaol am eich triniaeth a’ch dewisiadau mewn bywyd. Mae’r bobl sydd wedi cwblhau ein cyrsiau wedi llwyddo i leihau eu poen, byw bywyd mwy prysur, gwneud ffrindiau newydd a dychwelyd i waith neu addysg uwch mewn rhai achosion hyd yn oed. Edrychwch ar beth mae pobl sydd wedi cymryd rhan o’r blaen wedi’i ddweud.
Bydd y wefan hon yn rhoi manylion i chi am y gwahanol gyrsiau a gynigir, a bydd yn dangos beth sydd ar gael yn eich ardal chi. (Sylwch mai dim ond yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Caerdydd, Wrecsam a Gwynedd rydym ni’n darparu cyrsiau ar hyn o bryd). Os defnyddiwch chi ein ffurflen i gofrestru eich diddordeb mewn unrhyw gwrs, fe anfonwn ni fwy o fanylion atoch. Cofiwch bod croeso i chi gysylltu â’n swyddfa os hoffech chi drafod unrhyw beth. Byddwn yn ceisio darparu ar gyfer unrhyw anghenion arbennig, felly rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion chi.
The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.
End of page. You can return to the page content navigation from here.