Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.
Primary Navigation
|
Hafan
|
|
Skip the main content if you do not want to read it as the next section.
Peidiwch â phoeni. Byddwn ni’n sicrhau bod popeth mor ddidrafferth ag sy’n bosibl – dim ond lleoliadau hollol hygyrch â chyfleusterau priodol y byddwn ni’n eu defnyddio. Byddwn ni’n darparu taflenni a llyfrynnau hawdd eu defnyddio fel y gallwch chi ddarllen y wybodaeth yn eich amser eich hun. Bydd croeso i chi symud o gwmpas os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus o gwbl. Bydd arweinwyr profiadol ein cyrsiau’n sicrhau bod awyrgylch hamddenol a chyfeillgar yn cael ei greu, lle caiff pawb eu parchu. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion arbennig hefyd os rhowch chi wybod i ni beth yw eich anghenion chi.
Does dim angen i chi wybod unrhyw beth o gwbl mewn gwirionedd. Hyd yn oed os oes gennych chi rywfaint o wybodaeth eisoes, dylai fod modd i chi ddysgu rhywbeth newydd erbyn diwedd y cwrs – naill ai gan ein hyfforddwyr neu gan y bobl eraill a fydd yn cymryd rhan. Mae’n syndod beth mae pobl yn medru ei ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Ychydig iawn o waith ysgrifennu sy’n digwydd yn ystod unrhyw un o’n cyrsiau. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gofrestru a ffurflen syml cyn y cwrs, a byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen arall yn syth ar ôl y cwrs ac un arall chwe mis yn ddiweddarach. Cwestiynau syml am eich iechyd a’ch ffitrwydd sydd ar y ffurflenni. Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu ni i gyd i weld a yw eich bywyd wedi gwella ar ôl y cwrs. Yna, byddwn yn gallu dangos i’n cyrff ariannu sut y cafodd eu harian ei wario’n dda. Mae’n ffordd wych o wneud i chi feddwl am eich cynnydd eich hun hefyd, ac mae’n ffordd o’ch atgoffa i ddal ati i ddatblygu’r sgiliau a’r technegau a ddysgoch ar y cwrs.
Nid oes unrhyw brofion – byddwn ni’n cadw popeth yn syml iawn. Ar wahân i lenwi ein ffurflenni, ni fydd angen i chi ysgrifennu llawer iawn o gwbl. Bydd angen i chi ysgrifennu Cynllun Gweithredu ar rai cyrsiau – rhowch wybod i ni os hoffech chi gael unrhyw help i wneud hynny.
Yn anffodus, rydym yn dibynnu ar gael arian i allu cynnal ein cyrsiau: mae diffyg arian yn golygu diffyg cwrs. Ar hyn o bryd dim ond yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Caerdydd, Wrecsam a Gwynedd rydym yn gallu cynnal cyrsiau (ac mae angen arian o hyd ar gyfer y rheiny). Ond wrth gofrestru eich diddordeb â ni, byddwch yn ein helpu i allu dangos i gyrff ariannu bod galw am ein cyrsiau. Os hoffech chi ymwneud ag ymgyrchu i gael arian, cysylltwch â ni a gallwn ddweud wrthych beth yw’r sefyllfa.
Oes, byddwn yn cynnal cyrsiau mewn ieithoedd eraill weithiau, ond bydd y graddau y mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn amrywio o ardal i ardal yn dibynnu ar staffio. Gallai fod modd i chi ddod â’ch cyfieithydd eich hun i’r cyrsiau.
Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion o ran iaith.
Mae pobl o lawer o wahanol oedrannau’n mynychu’r rhan fwyaf o’n cyrsiau. Mae’r rhan fwyaf o’n cyrsiau ar gyfer pobl dros 18 oed, er ein bod ni’n cynnal dau gwrs ar gyfer pobl dan 18 oed mewn rhai ardaloedd. Gallwn ni gynnig peth hyblygrwydd. Os ydych chi’n pryderu’n fawr am y mater hwn, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni ein gorau i’ch helpu.
Wrth gwrs – fe wnawn ni ein gorau glas i’ch helpu pryd bynnag y bo hynny’n bosibl. Er enghraifft, efallai y gallwn ni drefnu gwasanaeth dehongli drwy iaith arwyddion neu ddarparu gwybodaeth mewn Braille neu ar dâp sain ar eich cyfer.
Cysylltu â ni fyddai orau i ddweud wrthym beth yw eich anghenion.
Weithiau bydd y bobl sy’n cymryd rhan mewn cwrs yn ffurfio’u grŵp eu hunain ac yn cyfarfod yn rheolaidd ar ôl y cwrs, gyda’n cymorth ni’n aml. Neu efallai y byddant yn ymuno â changen neu grŵp Gofal Arthritis sy’n bodoli eisoes. Mae nifer o bobl yn y fforymau trafod wedi bod ar ein cyrsiau ni hefyd. Maent yn mwynhau sgwrsio ar-lein ac yn cael llawer iawn o foddhad o gynorthwyo’i gilydd. Mae holl wasanaethau Gofal Arthritis yn agored i chi – porwch drwy’r wefan i weld beth allai fod o ddiddordeb i chi - mae digon i ddewis ohono. Efallai yr hoffech chi ddod yn aelod neu danysgrifio i’n cylchgrawn, Arthritis News.
Rydym wastad yn chwilio am bobl sy’n fodlon rhoi eu hamser a’u sgiliau o’u gwirfodd i ni. Edrychwch ar beth mae hynny’n ei olygu a chysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae’n syndod beth allwch chi ei ddysgu gan bobl eraill. Mae pobl sy’n ymdopi’n dda iawn â’u hanhwylder yn gweld eu bod yn cael budd o ryngweithio â phobl eraill yn y grŵp. Gall rhannu eich profiadau personol fod yn ffordd wych o rannu baich – a gallai helpu rhywun arall hefyd.
Ni fydd mynychu ein cyrsiau’n cael unrhyw effaith ar eich budd-daliadau. Nid yw cwblhau cwrs yn golygu y bydd yn rhaid i chi ddychwelyd i weithio (os nad ydych yn gweithio), ac ni fydd unrhyw un o asiantaethau’r llywodraeth ganolog yn cael gwybod eich bod wedi mynychu cwrs.
Cysylltu â’r swyddfa yn eich ardal chi fyddai orau i weld a all ein gweithwyr ni yno eich helpu. Byddem yn argymell hefyd y dylech chi edrych ar y cyhoeddiadau sydd gennym ar gyfer pobl ifanc, a chysylltu â’n llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd - The Source - os oes gennych chi unrhyw gwestiynau penodol ynghylch rheoli eich anhwylder.
Gallwch. Gallwch fynychu cwrs gyda’r person rydych yn gofalu amdano, neu ar eich pen eich hun os yw hynny’n well gennych. Rhowch wybod i ni beth yw eich sefyllfa wrth gofrestru fel y gallwn ni ei hystyried.
Yn sicr gallwn ni gynnal cyrsiau sydd wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer pob math o grwpiau.
Cysylltwch â’n swyddfa, a byddwn yn fwy na pharod i drafod y trefniadau â chi.
The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.
End of page. You can return to the page content navigation from here.