Gwirfoddoli

Skip the page content navigation if you do not require links to content sections within this page.

Page Content Navigation

Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.


Primary Navigation

Skip the main content if you do not want to read it as the next section.


Beth yw gwirfoddolwyr hyfforddi?

Mae gan bob un o’n gwirfoddolwyr hyfforddi arthritis neu anhwylder hirdymor arall. Byddant yn cael hyfforddiant proffesiynol i’w galluogi i gyflwyno ein gweithdai a’n cyrsiau ac ymrwymo i gynnal dau gwrs y flwyddyn. Bydd rhai gwirfoddolwyr mwy profiadol yn gofyn am gael cyflwyno mwy o gyrsiau a gweithdai, ond nid ydym yn disgwyl i bobl gyflwyno mwy na’r isafswm, sef dau. Caiff y cyrsiau eu cyflwyno gan dimau o ddau neu dri, ac felly ni fyddwch chi ar eich pen eich hun.

Bydd ein gwirfoddolwyr yn cael cymorth ac yn cael eu hasesu’n barhaus i sicrhau eu bod yn parhau i gyflwyno cyrsiau i safon uchel.

Ni cheir unrhyw dâl am wirfoddoli wrth gwrs, ond byddwn yn talu unrhyw dreuliau rhesymol ac yn sicrhau felly na fydd ein gwirfoddolwyr byth ar eu colled yn ariannol.

Ar hyn o bryd dim ond yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Caerdydd, Wrecsam a Gwynedd rydym yn chwilio am wirfoddolwyr.

Pa gymwysterau sydd eu hangen ar wirfoddolwyr hyfforddi?

Dim, yn syml iawn, ond bydd yn rhaid iddynt fod yn unigolion sydd ag arthritis neu anhwylder hirdymor arall.

Os ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl a gwneud gwahaniaeth, gallai gwaith gwirfoddolwr hyfforddi fod yn addas i chi. Mae llawer yn ei ystyried yn gyfle i helpu pobl eraill neu roi rhywbeth yn ôl.

Mae yna rai pobl a fyddai’n hoffi cyflwyno’r cyrsiau ond sy’n poeni am eu gallu i arwain grŵp a siarad ag awdurdod am bynciau’r cwrs. Bydd yr hyfforddiant a ddarperir o gymorth i’r bobl hynny. Bydd yr hyfforddiant yn eich dysgu i gyflwyno’r cyrsiau a theimlo’n gyfforddus wrth siarad o flaen grŵp. Bydd llawer o amser yn cael ei dreulio’n gweithio gyda’r grŵp i alluogi’r bobl sydd ynddo i benderfynu drostynt eu hunain beth sy’n gweithio iddyn nhw.

Wrth gwrs byddwn ni’n cael sgwrs â chi cyn i chi gychwyn gwneud unrhyw beth, er mwyn sicrhau y byddech chi’n hapus yn gwneud y math hwn o waith.

Yn ogystal â hyfforddiant, bydd ein gwirfoddolwyr newydd yn cael cymorth gan wirfoddolwyr profiadol a staff cymwys. Mae ymrwymiad a sgìl ein gwirfoddolwyr yn ein rhyfeddu ni’n gyson. Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.

Am wybod mwy?

 

Gallwn ni anfon DVD atoch a fydd yn rhoi darlun go iawn i chi o sut brofiad yw gwirfoddoli ar gyfer Gofal Arthritis.

Cysylltwch â ni i gael manylion.




Click on map to go to your area.

Scotland Northern Ireland North England Wales Central England South England

Am wybod mwy? Ffoniwch ni ar 08452 419676

The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.


Page Extras

Skip the main banner if you do not want to read it as the next section.


Page Banner

Call our FREE confidential helpline 0808 8004050

End of page. You can return to the page content navigation from here.