Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.
Primary Navigation
|
Hafan
|
|
Skip the main content if you do not want to read it as the next section.
Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd o ymdopi â’ch arthritis, gallai’r cwrs hwn fod yn addas i chi. Efallai eich bod chi newydd ddarganfod yn ddiweddar bod arthritis arnoch chi, efallai eich bod chi wedi bod yn byw gyda’r anhwylder ers peth amser, neu efallai bod rhywun sy’n agos atoch chi ag arthritis. Os ydych chi’n teimlo bod angen help arnoch (ac os ydych chi dros 18 oed), dewiswch Herio Arthritis.
‘Rwy’n teimlo’n well ers i fi fod ar y cwrs hwn. Rwy’n cerdded yn well, ac mae’r ffordd rwy’n dal fy nghorff yn well o lawer. Mae hynny wedi codi fy nghalon ac wedi fy helpu i ymdopi â byw o ddydd i ddydd.’
Mae’r cwrs yn cynnwys sesiwn dwy awr a hanner o hyd unwaith yr wythnos am chwe wythnos (mewn lleoliad hygyrch). Mae’n bymtheg awr i gyd – nad yw’n llawer o amser o ystyried y gallai’r cwrs wella ansawdd eich bywyd yn sylweddol.
Mae’r sesiynau wythnosol yn llawer o hwyl. Bydd sgyrsiau llawn gwybodaeth yn cael eu cyflwyno gan yr hyfforddwyr (sydd ag arthritis eu hunain ac sydd wedi cael hyfforddiant dwys), a bydd gweithgareddau ymarferol a sesiynau rhannu syniadau’n cael eu cynnal hefyd. Bydd digon o bethau i chi roi cynnig arnynt, eu profi a’u hymarfer gartref.
Gallwch chi fynychu ein cyrsiau i gyd yn rhad ac am ddim. Rydym yn cael ein hariannu gan gyrff amrywiol sy’n talu am gostau cynnal y cwrs. Mae hynny’n warant arall o ansawdd mewn gwirionedd, oherwydd rhaid i ni werthuso pob cwrs a darparu adborth i’n cyrff ariannu i ddangos sut mae pob cwrs wedi mynd.
Un rheswm: mae tystiolaeth yn dangos bod Herio Arthritis yn gweithio. Mae’r adborth a gawn yn dangos bod pobl yn gwybod mwy ac wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau oherwydd eu bod nhw wedi cymryd rhan yn y cwrs - edrychwch. Yn ogystal, mae ymchwil glinigol yn dangos bod y cwrs yn helpu i leihau pryder ac yn gwella hyder pobl wrth ymdopi â’u hanhwylder.
Edrychwch ar ein calendr cyrsiau, a defnyddiwch y wybodaeth sydd yno i lenwi ein ffurflen. Os nad oes cwrs ar gael yn eich ardal chi, anfonwch eich ffurflen atom beth bynnag. Bydd hynny’n golygu y gallwn ni gadw golwg ar y galw a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw gyrsiau newydd a gyhoeddir.
The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.
End of page. You can return to the page content navigation from here.