Herio Poen

Skip the page content navigation if you do not require links to content sections within this page.

Page Content Navigation

Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.


Primary Navigation

Skip the main content if you do not want to read it as the next section.


Os ydych chi’n byw gyda phoen cronig oherwydd arthritis neu unrhyw anhwylder arall, gallai’r cwrs hwn fod yn addas i chi. Cwrs byr ar gyfer oedolion yw Herio Poen. Bydd yn cyflwyno sgiliau a thechnegau hawdd i chi fel y gallwch chi reoli eich poen cronig ac adennill rheolaeth ar eich bywyd.

‘Cyflwynodd y cwrs gamau defnyddiol a oedd yn fy ngalluogi i reoli’r poen roeddwn i’n ei gael.’

Iawn, beth yw hyd y cwrs?

Mae’n golygu dwy sesiwn dwy awr a hanner o hyd dros bythefnos (mewn lleoliad hygyrch), a chaiff yr ail sesiwn ei chynnal wythnos ar ôl y sesiwn gyntaf. Mae’n ddigon o amser i chi ddysgu technegau a allai newid eich bywyd.

Beth fydd yn digwydd felly?

Bydd y ddau weithdy’n canolbwyntio ar drafod, a byddant yn cynnwys sesiynau ymarferol i arddangos technegau ymlacio. Bydd taflenni sydd wedi’u hysgrifennu’n glir yn cael eu dosbarthu i chi eu darllen yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddwyr (sy’n byw gyda phoen cronig hefyd) yn sicrhau bod awyrgylch cefnogol yn y gweithdy, lle bydd pobl yn teimlo’u bod nhw’n gallu siarad yn agored.

Beth fydd y cwrs yn ymdrin ag e yn ystod y ddwy sesiwn?

  • Ymdrin â therapïau rheoli poen – ymarferion ymlacio’r corff yn llwyr ac ymarferion dychmygu
  • Ymdrin â thechnegau anadlu a chyfeirio sylw at rywbeth arall
  • Ymdrin â dysgu gwneud pethau wrth eich pwysau a defnyddio technegau i helpu i atal blinder
  • Ymdrin â rheoli straen a mynd i’r afael â meddyliau negyddol
  • Ymdrin â phennu nodau hirdymor personol a gweithio tuag at eu cyflawni
  • Ymdrin â sgiliau datrys problemau
  • Ymdrin â phwysigrwydd cadw’n brysur a gwneud ymarfer corff yn ddiogel
  • Ymdrin â chyfathrebu’n well
  • Ymdrin â meddyginiaeth a therapïau eraill
  • Ymdrin â rhannu gwybodaeth am adnoddau lleol.

Byddwn yn defnyddio cryno-ddisg at ddiben ymlacio yn ystod y gweithdy hwn. Gallwch wrando ar sampl o’r hyn sydd ar y cryno-ddisg yma.

A beth fydd y gost i mi?

Gallwch chi fynychu ein cyrsiau a’n gweithdai i gyd yn rhad ac am ddim. Rydym yn cael ein hariannu gan gyrff amrywiol sy’n talu am gostau cynnal y cwrs. Mae hynny’n warant arall o ansawdd mewn gwirionedd, oherwydd rhaid i ni werthuso pob cwrs a darparu adborth i’n cyrff ariannu i ddangos sut mae pob cwrs wedi mynd.

Os yw’n rhad ac am ddim, sut bydda i’n gwybod ei fod e’n dda?

Mae’r cwrs Herio Poen wedi cael ei dreialu’n glinigol, a phrofwyd ei fod yn lleihau pryder pobl am eu hiechyd ac yn gwella’u hyder wrth ddelio â’u problemau iechyd. Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn dweud wrthym yn rheolaidd ei fod wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd: darllenwch drosoch chi eich hun.

Mae’n swnio’n grêt - sut galla i gofrestru?

Edrychwch ar ein calendr cyrsiau, a defnyddiwch y wybodaeth sydd yno i lenwi ein ffurflen. Os nad oes cwrs ar gael yn eich ardal chi, anfonwch eich ffurflen atom beth bynnag. Bydd hynny’n golygu y gallwn ni gadw golwg ar y galw a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw gyrsiau newydd a gyhoeddir.




Click on map to go to your area.

Scotland Northern Ireland North England Wales Central England South England

Am wybod mwy? Ffoniwch ni ar 08452 419676

The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.


Page Extras

Skip the main banner if you do not want to read it as the next section.


Page Banner

Call our FREE confidential helpline 0808 8004050

End of page. You can return to the page content navigation from here.