Llythyrau cymeradwyaeth

Skip the page content navigation if you do not require links to content sections within this page.

Page Content Navigation

Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.


Primary Navigation

Skip the main content if you do not want to read it as the next section.


Herio Arthritis

‘Dwi ddim yn meddwl y bydda i byth yn teimlo mor ofnadwy o anabl eto’

‘Rwyf newydd orffen llenwi’r holiadur ar ôl y cwrs, ac rwy’n dechrau sylweddoli cymaint rwyf wedi’i ddysgu gennych mewn ychydig wythnosau’n unig. Mae’r profiad o gyfarfod â phobl eraill sydd â phroblemau mor amrywiol yn addysg ynddo’i hun, ond mae’r ffordd rydych wedi ein harwain gan bwyll i sefyllfa lle gallwn ni reoli ein bywydau’n rhyfeddol.

Gallaf weld bod y cwrs wedi’i ddatblygu dros gyfnod hir iawn, gan ddefnyddio adborth mynych gan gannoedd o filoedd o bobl go iawn ac arbenigwyr yn y maes. Fodd bynnag, ni allai’r gwaith trylwyr hwn fod mor effeithiol heb y cynlluniau gwersi trefnus rydych wedi’u cyflwyno mor dda i ni yn yr ystafell ddosbarth.

Ar ôl deall y cysyniad o gynllun gweithredu, dwi ddim yn credu y bydda i byth eto’n fy nhwyllo fy hun nad oes dim y galla i ei wneud am unrhyw broblem.

Mae’r ymarferion anadlu a dychmygu syml wedi bod yn effeithiol yn fy achos i, ac rwy’n gallu cael gwared â’r holl dyndra sydd yn fy nghorff yn llwyr. Dylech wybod fy mod i wedi rhoi cynnig yn y gorffennol ar bob math o ymarferion myfyrio ac ymarferion anadlu tebyg i ioga, ond yn ofer.

Mae ailgychwyn gwneud ymarfer corff ysgafn ond effeithiol wedi gwella fy iechyd corfforol i’n barod, a dwi ddim yn teimlo mor eiddil a gwan erbyn hyn. Mae’r holl syniad y galla i wella fy iechyd trwy gymryd camau mor syml yn fy ngalluogi i ddweud yn hyderus nad wy’n meddwl y bydda i byth yn teimlo mor ofnadwy o anabl eto.’

‘Roedd Herio Arthritis yn drobwynt yn fy mywyd’

‘Cefais wybod bod arthritis gwynegol arna i pan oeddwn i’n un ar bymtheg oed. Roedd y symptomau cyntaf yn boenus – bysedd bawd twym – ac ymledodd y poen yn raddol trwy fy nghymalau i gyd. Ar ôl blynyddoedd o fynychu apwyntiadau ysbyty a rhoi cynnig ar amryw o feddyginiaethau, cefais fy llawdriniaeth gyntaf i osod cymal newydd pan oeddwn i’n 39 oed. Am flynyddoedd, roeddwn i’n hollol anwybodus ac yn teimlo’n ofnus iawn am yr hyn oedd yn digwydd i fy nghorff i. Yn aml, roedd cael gafael ar unrhyw wybodaeth i glaf yn anodd dros ben.

Yn 2003, gwelais hysbyseb ar gyfer cwrs Herio Arthritis. Roedd yn drobwynt yn fy mywyd. Trwy fynd ar y cwrs, medrais gyfarfod â phobl eraill oedd yn profi’r poen ac yn cael y problemau roeddwn i wedi bod yn byw gyda nhw ers cynifer o flynyddoedd. Ar ôl y cwrs, gofynnwyd i fi fod yn wirfoddolwr hyfforddi. Gan fy mod i wedi cael cymaint allan o’r cwrs roeddwn yn fwy na pharod i rannu’r newyddion da, a dechreuais gael fy hyfforddi’n syth.

Caiff y cyrsiau Herio Arthritis eu cyflwyno gan wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig ac sydd ag arthritis eu hunain. Mae ganddynt lawr o empathi felly â’r bobl sy’n cymryd rhan.

Mae’r boddhad o fod yn wirfoddolwr hyfforddi’n rhyfeddol. Rwyf wedi gweld dynion a menywod yn cael eu trawsnewid, o fod yn bobl â hunan-barch isel sy’n besimistaidd am eu harthritis yn wythnos un i fod yn bobl sy’n hunanreolwyr hyderus erbyn wythnos chwech. Bydd llawer o’r bobl sy’n cymryd rhan yn dod yn ffrindiau ac yn cyfnewid cynghorion ynghylch ffyrdd o oresgyn rhai problemau.

Mae Herio Arthritis wedi gwella ansawdd fy mywyd i a bywydau’r bobl sydd wedi mynychu’r cyrsiau’n sylweddol. Nid ydym yn ofni’r anhwylder bellach, ac yn fwy na dim mae’r cyrsiau wedi rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ni fedru mabwysiadu agwedd gadarnhaol at fywyd.'

‘Am y tro cyntaf, roeddwn i’n teimlo fy mod i ymhlith pobl a allai ddeall fy sefyllfa’n wirioneddol’

‘Mynychais gwrs Herio Arthritis am chwe wythnos ym mis Mehefin 2005. Wrth fynd i’r cyfarfod cyntaf, rhaid i fi gyfaddef fy mod i wedi meddwl o ddifri pam yr oedd angen dwy awr a hanner bob wythnos am chwe wythnos i drafod y pwnc. Roeddwn i’n meddwl mai grŵp o bobl fyddai yno’n cwyno am eu poenau. Ond roeddwn i’n bell iawn o’m lle.

Roedd y cwrs yn cael ei gynnal gan dri hyfforddwr ysbrydoledig a oedd ag arthritis eu hunain ac a oedd felly’n gallu uniaethu â ni i gyd. Roedd strwythur y cwrs yn dda iawn, ac roedd perthynas wych rhwng yr arweinwyr a’r bobl oedd yn cymryd rhan. Câi cynlluniau gweithredu i herio ein harthritis eu llunio bob wythnos, ac roedd hynny’n ein cymell i roi cynnig ar y nodau a’r awgrymiadau newydd a gâi eu cyflwyno yn y dosbarth erbyn yr wythnos ganlynol. Roedd cyfle hefyd i drafod ein sefyllfaoedd unigol a chlywed sut roedd pobl eraill yn ymdopi â’u harthritis ac yn ei reoli.

Mae arthritis gwynegol wedi bod gen i ers 15 mlynedd, ac am y tro cyntaf roeddwn i’n teimlo fy mod i ymhlith pobl a allai ddeall ac uniaethu â fi’n wirioneddol. Pan ddaeth y cwrs i ben, penderfynodd pob un ohonom gadw mewn cysylltiad a pharhau i gynorthwyo ein gilydd. Nawr rydym yn cyfarfod bob wyth wythnos i gael cinio neu de, a byddwn ni’n ffonio ein gilydd rhwng y cyfarfodydd i gyfnewid cynghorion a newyddion a chodi calonnau ein gilydd yn gyffredinol. Fel rheol bydd un neu ddau o arweinwyr hyfryd a chefnogol iawn y cwrs yn dod hefyd. Rydym yn griw cyfeillgar ac rydym yn edrych ymlaen yn wirioneddol at ein cyfarfodydd.

Byddwn i’n argymell y cwrs i unrhyw un sy’n cael cyfle i’w ddilyn neu sy’n ystyried ei ddilyn. Mae wedi fy helpu i’n aruthrol. Rwyf wedi gwneud ffrindiau da, ac rwy’n deall cymaint mwy am arthritis a sut i ddelio ag ef erbyn hyn.


Herio Poen

‘Roedd fy nghorff cyfan yn teimlo’n well’

‘Gwelais hysbyseb ar gyfer gweithdy Herio Poen mewn papur newydd lleol rhad ac am ddim. Roedd yn ddelfrydol ar fy nghyfer, oherwydd roeddwn i’n teimlo’n isel iawn ar y pryd. Rwy’n 71 oed ac roeddwn i wedi byw bywyd prysur erioed, ond roedd y poen roeddwn i’n ei gael oherwydd yr osteoarthritis yn fy mhen-glin wedi dechrau fy atal i rhag cerdded yn bell a chyflawni fy ngweithgareddau arferol. O ganlyniad, roeddwn i wedi magu pwysau.

Yn ystod y gweithdy dangoswyd llawer o dechnegau rheoli poen defnyddiol i ni, a oedd yn ddiogel ac yn hawdd eu defnyddio – ac yn effeithiol. Roedd yr ymarferion ymlacio ac anadlu o fudd mawr i fi. Bu’r gweithdy cyfan yn ddefnyddiol dros ben – roedd yn gyfle i siarad â phobl eraill oedd yn yr un cwch â fi, a dysgu sut i reoli fy meddyliau negyddol, delio â straen a gwneud pethau wrth fy mhwysau i atal blinder.

Yn dilyn y gweithdy, penderfynais barhau i wneud llawer o’r ymarferion a oedd ar y daflen ymarferion gartref. Gwelais nad oeddent yn rhy anodd, ac roeddwn i’n gallu gwneud llawer ohonynt mewn cadair wrth eistedd i wylio’r teledu. Gwelais hefyd bod fy nghorff cyfan yn teimlo’n well - roedd fy iechyd a fy lles i wedi gwella.

Yn gynharach eleni cefais fy nghyfeirio gan fy Meddyg Teulu at feddyg ymgynghorol, a chefais fy nerbyn i ysbyty Derriford ym mis Mehefin i gael llawdriniaeth i osod pen-glin newydd. Roedd y ffisiotherapydd a’i chydweithiwr yn synnu fy mod i mor ystwyth mor fuan ar ôl y llawdriniaeth. Dywedais wrthynt fy mod i wedi bod yn gwneud ymarferion a ddangoswyd i fi yn y gweithdy, a’u bod nhw wedi helpu’n benodol i gadw’r cyhyrau o amgylch y cymal yn gryf. Dywedodd y ffisiotherapyddion wrthyf am ddweud wrth bobl eraill a Gofal Arthritis bod hwn yn wasanaeth o’r radd flaenaf, a allai fod o fudd i lawer o bobl sydd mewn poen a llawer o bobl fel fi a oedd yn disgwyl cael llawdriniaeth i osod cymal newydd.

Cefais fynd adref o’r ysbyty ar ôl dim ond pum diwrnod. Mae gen i ffrind sy’n disgwyl cael llawdriniaeth i osod pen-glin newydd hefyd, ac rwyf wedi dweud wrthi y dylai fynychu gweithdy Herio Poen pan fydd un ar gael yn ei hardal. Diolch, Gofal Arthritis, am leihau fy mhoen a gwneud gwahaniaeth i fy mywyd.




Click on map to go to your area.

Scotland Northern Ireland North England Wales Central England South England

The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.


Page Extras

Skip the main banner if you do not want to read it as the next section.


Page Banner

Call our FREE confidential helpline 0808 8004050

End of page. You can return to the page content navigation from here.