Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.
Primary Navigation
|
Hafan
|
|
Skip the main content if you do not want to read it as the next section.
Mae gwirfoddoli yn gwbl allweddol i Gofal Arthritis. Ni fyddai Gofal Arthritis yn bodoli heb y bobl sydd yn barod i roi rhywfaint o’u hamser a’u sgiliau i helpu i wneud gwahaniaeth i bobl ag arthritis ar hyd a lled Cymru.
Daw ein gwirfoddolwyr o bob math o gefndir. Mae llawer ohonynt yn byw gydag arthritis eu hunain, mae rhai ohonynt yn weithwyr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol ac mae rhai yn ofalwyr neu’n bobl sydd â phrofiad o fod ag aelod o’r teulu neu ffrind sy’n byw gydag arthritis. Yr hyn sy’n gyffredin i’n holl wirfoddolwyr yw eu brwdfrydedd a’u hymroddiad i helpu i wella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gydag arthritis yng Nghymru.
Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli wedi’u cynllunio i wneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau lleol yn ogystal â chynnig profiad buddiol a gwerthfawr i’r gwirfoddolwyr eu hunain. Ein nod yw sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn mwynhau eu gweithgareddau ac yn teimlo eu bod yn rhan o fudiad sy’n eu cefnogi ac yn eu gwerthfawrogi.
Dyma pecyn gwybodaeth a ffurflen cais i fod yn wirfoddolwr.
The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.
End of page. You can return to the page content navigation from here.