Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.
Primary Navigation
|
Hafan
|
|
Skip the main content if you do not want to read it as the next section.
Y gwanwyn hwn byddwn yn cynnig cyfle i’n cefnogwyr ledled Cymru Fynd am Dro er mwyn Arthritis yn rhan o Wythnos Gofal Arthritis (9-15 Mai). Rydym am adeiladu ar lwyddiant teithiau cerdded y llynedd, a chael llawer mwy o bobl i gymryd rhan.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod gan 10 miliwn o bobl yn y DU arthritis, rydym yn gofyn i’n cyfranogwyr gymryd 10 miliwn o gamau rhyngddynt. Mae hynny’n gyfystyr â 500 o bobl yn cerdded 10 milltir yr un, neu 1,000 o bobl yn cerdded 5 milltir.
Byddwn yn cynnal deithiau cerdded wedi’u trefnu yn Parc Wepre, Sir Flint a Parc Cefn Onn, Caerdydd. Bydd y teithiau hyn yn agored i bawb - aelodau Gofal Arthritis, eu ffrindiau a’u perthnasau, aelodau’r canghennau, pobl ifanc - yn wir, unrhyw un a fyddai’n hoffi cefnogi ein helusen a’r gwaith yr ydym yn ei wneud er mwyn pobl ag arthritis.
Rydym hefyd yn annog pobl i drefnu eu teithiau cerdded eu hunain. Nid oes gwahaniaeth ble, pryd na pha mor hir yw’r daith. Gallai fod yn y parc lleol, o gwmpas llyn, trwy ganol eich dinas neu hyd yn oed ar y traeth.
Yr hyn sy’n bwysig yw bod y cyfranogwyr yn cael amser da a’u bod yn cyflawni rhywbeth er mwyn Gofal Arthritis ac er eu mwyn eu hunain.

Eden Springs: UK's No.1 bottled water supplier
The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.
End of page. You can return to the page content navigation from here.