Cymryd rhan

Skip the page content navigation if you do not require links to content sections within this page.

Page Content Navigation

Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.


Primary Navigation

Skip the main content if you do not want to read it as the next section.


Gellir cymryd rhan yng ngweithgareddau ymgyrchu Gofal Arthritis mewn sawl ffordd. Nid yw cymryd rhan mewn gwaith ymgyrchu yn golygu bod yn rhaid i chi neilltuo llawer o amser ar ei gyfer. Gall gwaith o’r fath fod yn llawer o hwyl, a gall roi llawer o foddhad i chi.

  • Yn gyntaf, os hoffech chi sôn wrthym am broblem - boed fawr neu fach - yr ydych yn credu y dylem ni fod yn ymgyrchu yn ei chylch, rhowch ganiad i ni. Mae ein Tîm Polisi ac Ymgyrchoedd yng Nghymru bob amser yn falch o glywed gan bobl sydd â diddordeb mewn polisïau neu wasanaethau sy’n effeithio ar bobl ag arthritis. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych farn am eich gwasanaethau lleol neu brofiad ohonynt.
  • Yr ail ffordd o gymryd rhan yw ymuno â Rhwydwaith Ymgyrchwyr Gofal Arthritis. Gallwch ymuno â’r Rhwydwaith yn rhad ac am ddim, ac nid oes rhaid i chi ymgyrchu ar ôl ymuno – chi sy’n penderfynu i ba raddau yr ydych am ymwneud â’r Rhwydwaith. Ar ôl dod yn un o gefnogwyr y Rhwydwaith, byddwch yn cael Pecyn Croeso rhad ac am ddim sy’n llawn cynghorion gwych ynghylch ymgyrchu ynghyd â’n llythyr newyddion – Cymru’n Ymgyrchu – a gyhoeddir deirgwaith y flwyddyn. Trowch at y dudalen sy’n sôn am ein Rhwydwaith Ymgyrchwyr i gael rhagor o wybodaeth a ffurflen ymuno.
  • Y drydedd ffordd o gymryd rhan yw gwirfoddoli ar ran Gofal Arthritis. Mae rhai o’n gwirfoddolwyr yn rhedeg ymgyrchoedd lleol; mae rhai eraill yn ymwneud â fforymau a rhwydweithiau lleol a sefydlwyd gan ddarparwyr gwasanaeth lleol, gan sicrhau bod y fforymau a’r rhwydweithiau hynny’n clywed barn pobl leol sydd ag arthritis.

Pa ffordd bynnag yr hoffech gymryd rhan, cysylltwch â’r Tîm Polisi ac Ymgyrchoedd. Cofiwch ymweld â’r wefan hon pan gewch chi gyfle – byddwn yn diweddaru’r tudalennau sy’n sôn am ymgyrchoedd yn ogystal â’r tudalennau eraill yn rheolaidd.




Click on map to go to your area.

Scotland Northern Ireland North England Wales Central England South England

The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.


Page Extras

Skip the main banner if you do not want to read it as the next section.


Page Banner

Call our FREE confidential helpline 0808 8004050

End of page. You can return to the page content navigation from here.