Gynghrair ar Godi Tāl

Skip the page content navigation if you do not require links to content sections within this page.

Page Content Navigation

Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.


Primary Navigation

Skip the main content if you do not want to read it as the next section.


Mae Gofal Arthritis yn rhan o’r Gynghrair ar Godi Tâl yng Nghymru, sydd wrthi’n ymgyrchu dros gael gofal personol rhad ac am ddim i bobl anabl a phobl hŷn ledled Cymru.  Yn gynharach eleni, penderfynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru dorri’r addewid a wnaeth yn ei maniffesto i gyflwyno gofal personol rhad ac am ddim, a thrwy hynny gwelwyd y tro pedol gwleidyddol mwyaf hyd yn hyn yn hanes datganoli Cymru.  Mae’r Gynghrair yn parhau â’i hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r effaith y mae codi tâl am wasanaethau gofal cymunedol yn ei chael ar bobl hŷn, pobl anabl a gofalwyr, ac mae’n ceisio sicrhau bod y polisi annheg hwn yn cael ei ddileu.

Mae’r Gynghrair ar Godi Tâl yng Nghymru yn dweud fel a ganlyn:

  • Mae torri’r addewid i ddarparu gofal cartref rhad ac am ddim yn galluogi’r loteri côd post a’r gwahaniaethu ar sail oedran sy’n digwydd ar hyn o bryd i barhau.  Y bobl a fydd yn talu am annibyniaeth fydd y bobl hynny sydd â’r incwm isaf yn ein cymuned a’r bobl y mae arnynt angen ein help ni fwyaf
  • Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree i bolisi’r Alban o ddarparu gofal personol rhad ac am ddim i bobl hŷn sy’n byw gartref ac mewn cartrefi preswyl a nyrsio, bod hynny wedi creu system decach heb orfod gwario gormod o arian cyhoeddus ychwanegol 
  • Mae’n rhaid i LLCC ailystyried y mater hwn ar fyrder, a dylai ariannu gwaith ymchwil trylwyr i’r gost debygol, y manteision a’r grym cyfreithiol angenrheidiol a fyddai ynghlwm wrth gyflwyno gofal cartref rhad ac am ddim yng Nghymru
  • Nid yw adolygiad cyfyngedig LLCC o’r modd y mae awdurdodau lleol yn mynd ati ar hyn o bryd i asesu pa daliadau sy’n berthnasol i bobl, yn darparu ateb hirdymor i’r broblem  
  • Yr unig ffordd deg o ddod â’r annhegwch hwn i ben yw peidio â chodi unrhyw dâl am wasanaethau a gaiff eu darparu trwy gyfrwng asesiad gofal cymunedol

Sut i gymryd rhan

Mae’r Gynghrair ar Godi Tâl wedi llunio Pecyn Ymgyrchoedd, sy’n rhoi gwybodaeth bellach am yr arfer o godi tâl ynghyd â manylion am sut y gellir cefnogi ymgyrch y Gynghrair.  Mae’r pecyn yn cynnwys enghreifftiau o lythyrau y gellir eu hanfon at Aelodau’r Cynulliad a phobl eraill sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ac mae’n cynnig syniadau megis trefnu deisebau, stondinau ar y stryd ac ati. 


 




Click on map to go to your area.

Region selection map Scotland North England South England Central England Wales Northern Ireland

The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.


Page Extras

Skip the main banner if you do not want to read it as the next section.


Page Banner

Call our FREE confidential helpline 0808 8004050

End of page. You can return to the page content navigation from here.