Rhwydwaith ymgyrchwyr

Skip the page content navigation if you do not require links to content sections within this page.

Page Content Navigation

Skip the primary navigation if you do not want to read it as the next section.


Primary Navigation

Skip the main content if you do not want to read it as the next section.


Ymunwch â’r rhwydwaith yn rhad ac am ddim

Mae Gofal Arthritis wrthi’n datblygu Rhwydwaith Ymgyrchwyr er mwyn adeiladu ar ei waith ymgyrchu pwysig i wella hawliau a gwasanaethau ar gyfer pobl ag arthritis ar draws Cymru.

Er bod gwelliannau y dylid eu croesawu wedi digwydd mewn rhai ardaloedd, mae gofal iechyd mewn perthynas ag arthritis yn parhau i fod yn anghyson ar draws Cymru – gwasanaeth eilradd sy’n parhau i fod ar gael mewn sawl rhan o Gymru ar gyfer pobl ag arthritis, gydag ychydig iawn o wasanaethau allweddol megis gwasanaethau rhewmatoleg yn cael eu darparu’n lleol.

Cynorthwyo pobl

Mae’r Rhwydwaith wedi’i sefydlu i gynorthwyo’r bobl hynny sydd am ymuno â’r sawl sy’n galw am hawliau a gwasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer pobl ag arthritis.

Gall y rheiny sy’n aelodau o Gofal Arthritis a’r rheiny nad ydynt yn aelodau o Gofal Arthritis ymuno â’r Rhwydwaith, a hynny’n rhad ac am ddim. Cefnogwyr unigol y Rhwydwaith sy’n penderfynu faint o amser yr hoffent ei neilltuo ar gyfer gwaith ymgyrchu.

Mae cefnogwyr y Rhwydwaith yn cael:

  • Pecyn Croeso rhad ac am ddim sy’n cynnwys cynghorion gwych ynghylch ymgyrchu a llawer o wybodaeth am y modd y caiff penderfyniadau eu gwneud yng Nghymr
  • llythyr newyddion rhad ac am ddim o’r enw ‘Cymru’n Ymgyrchu’ a gyhoeddir deirgwaith y flwyddyn
  • gwybodaeth a chynghorion a ddarperir gan y Tîm Polisi ac Ymgyrchoedd ar gyfer unrhyw rai o gefnogwyr y Rhwydwaith sy’n dymuno cychwyn eu hymgyrch eu hunain
  • cyfle i gyfrannu eu barn i’r Rhwydwaith er mwyn helpu i lunio blaenoriaethau Gofal Arthritis mewn perthynas ag ymgyrchu.

Cymryd rhan

Bydd cyfleoedd ar gael i gymryd rhan yn ein gweithgareddau â’r cyfryngau a chyfleoedd i gysylltu â phobl eraill yn yr un ardal sy’n rhannu’r un diddordebau o safbwynt ymgyrchu.

Wrth i’r Rhwydwaith dyfu yng Nghymru, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cynnig cyfle i gefnogwyr gymryd rhan mewn ymgyrchoedd, gweithdai a hyfforddiant.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith, cysylltwch â ni ar 0845 2419675 neu anfonwch e-bost at WalesCampaigns@Arthritiscare.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Ymgyrchwyr ac i ymuno ewch ati i lawrlwytho Pecyn Ymgyrchoedd Cymru, llenwch y ffurflen ar y diwedd ac anfonwch  hi i Gofal Arthritis yng Nghymru, Ty Trydan, Stryd y Castell, Castell Newydd Emlyn, Sir Caerfyrddin, SA38 9AF. 




Click on map to go to your area.

Scotland Northern Ireland North England Wales Central England South England

The following page sections include static unchanging site components such as the page banner, useful links and copyright information. Return to the top of page if you want to start again.


Page Extras

Skip the main banner if you do not want to read it as the next section.


Page Banner

Call our FREE confidential helpline 0808 8004050

End of page. You can return to the page content navigation from here.